English / Cymraeg

GWYDDOM BETH YW GWERTH EIN HYMGEISWYR

Un o gryfderau allweddol Goodson Thomas yw'r ffaith bod gennym ddealltwriaeth fanwl o'r farchnad dalent; dyma gryfder yr awn ati'n gyson i'w ddatblygu er mwyn inni allu esgor ar ganlyniadau eithriadol i'n cleientiaid.

Os ydych yn chwilio am her newydd mewn uwch-rôl weithredol neu anweithredol, neu os ydych yn awyddus i ddeall beth yw gwerth eich cryfderau ar y farchnad dalent, lanlwythwch eich CV yma a byddwn yn cysylltu â chi yn fuan i gael trafodaeth fanylach.

LANLWYTHO

EICH CV

Monitro Cydraddoldeb, Amrywiaeth a Chynhwysiant

Llenwch y ffurflen hon er mwyn ein helpu ni a'n cleient i fonitro amrywiaeth ein hymgeiswyr. Rydym yn eich annog i ddatgelu eich manylion yn llwyr, ond cydnabyddwn y bydd yn well gan rai pobl beidio â datgelu eu data personol, boed hynny'n rhannol neu'n gyfan gwbl. Mewn achosion o'r fath, mae croeso ichi ddewis "Gwell gennyf beidio â dweud".

Bydd y manylion a nodwch yn cael eu trin fel gwybodaeth ddienw, breifat a chyfrinachol gennym ni a'n cleient.

Bydd y data'n cael ei gydgrynhoi a dim ond ar gyfer monitro ac adrodd am gyfle cyfartal y caiff ei ddefnyddio.

Mae rhai o'r cwestiynau a'r categorïau yn rhai a argymhellir gan y Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol, cyfrifiad y DU a HESA.

Os oes gennych ymholiadau neu gwestiynau'n ymwneud â'r ffurflen hon, cysylltwch â ni ar info@goodsonthomas.com

Beth yw eich oedran?
Nodwch eich rhyw
A yw eich hunaniaeth rhywedd yr un fath â'r rhywedd a bennwyd ichi ar adeg eich geni?
Beth yw eich cyfeiriadedd rhywiol?
Mae Goodson Thomas eisiau sicrhau bod pob ymgeisydd yn cael ei drin yn gyfartal, ni waeth be fo'i hil, ei liw neu ei darddiad ethnig. Er mwyn gwneud hyn, rydym angen cael gwybod am darddiad ethnig pobl sy'n ymgeisio i ymuno â ni. Â pha grŵp ydych chi'n uniaethu fwyaf?
Mae Goodson Thomas eisiau sicrhau bod pob ymgeisydd yn cael ei drin yn gyfartal, ni waeth be fo'i hil, ei liw neu ei darddiad ethnig. Er mwyn gwneud hyn, rydym angen cael gwybod am darddiad ethnig pobl sy'n ymgeisio i ymuno â ni. Â pha grŵp ydych chi'n uniaethu fwyaf?
A ydych yn ystyried bod gennych anabledd? Diffinnir person anabl dan Ddeddf Cydraddoldeb 2010 fel rhywun â nam corfforol neu feddyliol sy'n cael effaith sylweddol a hirdymor ar ei allu i gyflawni gweithgareddau arferol o ddydd i ddydd.