English / Cymraeg

Busnes chwilio gweithredol o Gymru’n dathlu’i blwyddyn orau erioed

Wednesday 26th April 2023

Mae Goodson Thomas, cwmni chwilio gweithredol dwyieithog a sefydlwyd yng Nghymru, yn dathlu ei blwyddyn orau hyd yma. Ar ddiwedd mis Mawrth 2023, gwelodd y cwmni sydd wedi bod yn rhedeg ers wyth mlynedd, dwf mewn refeniw o 60% i gymharu gyda'r flwyddyn flaenorol. Mae'r tîm bach o ymgynghorwyr ac ymchwilwyr yn gweithio ar draws meysydd amrywiol yn y sector gyhoeddus, breifat a dielw yng Nghymru ac yn ymgysylltu â marchnadoedd y DU a rhyngwladol. Er gwaethaf yr ansicrwydd economaidd sy'n parhau i herio busnesau ledled y DU, ymgymerodd Goodson Thomas, a enillodd le ar Fframwaith Gwasanaethau Masnachol y Goron ym mis Medi 2022, ag 82% yn fwy o aseiniadau dros y 12 mis diwethaf o gymharu â'r flwyddyn flaenorol. Bu'r cwmni…

view more »


Mae Recriwtio yn Fuddsoddiad Strategol a Rhaid Inni Wneud Pethau’n Iawn

Thursday 16th March 2023
Ross O'Keefe

Beth ydyn ni'n delio ag ef? Rydyn ni wedi dechrau 2023 gyda mwy na'n cyfran o heriau. Mae chwyddiant dau ddigid, cyfraddau llog uchel a thwf cyflog disymud yn gwaethygu problemau sy'n gysylltiedig ag ymosodiad Rwsia ar Wcráin, sydd wedi effeithio ar gadwyni cyflenwi, wedi codi pris cyfleustodau craidd ac wedi cyfyngu ar rym gwario pobl sy'n gweithio. Mae'r argyfwng costau byw (nid yn annisgwyl) yn effeithio ar gymhellion ymgeiswyr yn ogystal â chynyddu costau gweithredu i fusnesau. Mae prisiau'n codi'n gyffredinol, ond nid yw cyflogau'n codi. Mae'r sector cyhoeddus yn debygol o weld cynnydd cyflog cyfartalog o 2% eleni (yn erbyn cyfradd chwyddiant o 10.1%) ac mae nifer o wasanaethau canolog (iechyd, addysg ac ati)…

view more »


Dydd Gŵyl Dewi

Monday 27th February 2023

Byddwn ni ar gau ar 1 Mawrth 2023 i nodi a dathlu Dydd Gŵyl Dewi. Yn fusnes chwilio gweithredol dwyieithog, rydym yn falch o'n gwaith yng Nghymru a'n partneriaethau gyda sefydliadau sydd wedi'u lleoli yng Nghymru. Cysylltwch cyn neu ar ôl dydd Mercher os oes unrhyw beth y gallwn ei wneud i'ch cefnogi chi neu eich busnes chi. Diolch! info@goodsonthomas.com

view more »


Mae ymgeiswyr yn ysgogi newidiadau mewn recriwtio - Papur Gwyn

Wednesday 1st February 2023
Ross O'Keefe

Er bod ymgeiswyr am gael eu talu yn unol â'r farchnad, nid cyflog yw'r prif ffactor sy'n ysgogi ymgeiswyr ar hyn o bryd. Heddiw, rydym yn rhannu ein Papur Gwyn cyntaf lle rydym yn ymchwilio'n ddyfnach i ddisgwyliadau ymgeiswyr. Ein profiad ni yw bod y ffactorau sy'n dylanwadu ar benderfyniadau ymgeiswyr i symud rolau yn cynnwys pwrpas sefydliadol, gwerthoedd a diwylliant cwmni. Mae'r cyflog yn un ffactor ymhlith sawl un a ddymunir gan ymgeiswyr. Amser: Mae gweithio hyblyg a hybrid neu'r opsiwn i gwtogi neu leihau nifer y diwrnodau yn yr wythnos waith yn gais poblogaidd. Gwerth: Mae ymgeiswyr yn ceisio gweithio mewn diwylliant sy'n canolbwyntio ar allbwn. Lles: Mae amser i ffwrdd o'r gwaith i ailosod ac adfer yn bwysig. Diogelwch:…

view more »


Paned Dydd Llun

Monday 16th January 2023
Hannah Curtis

Fel y mae nifer ohonoch chi'n ymwybodol, mae trydydd dydd Llun mis Ionawr yn cael ei adnabod yn aml fel 'diwrnod anoddaf y flwyddyn'. One fel y mae'r Samariaid yn ei nodi, gallwn ni i gyd gael diwrnodau gwael a dyddiau da ac nid yw dyddiad yn y calendr yn pennu pryd y byddant yn digwydd. Dyma pam mae'r Samariaid yn hyrwyddo #PanedDyddLlun ar 16 Ionawr 2023 yn lle hynny; lle gallwn ni i gyd wneud amser i ddal i fyny ag eraill a gwrando o ddifrif ar yr hyn sy'n cael ei ddweud. Yn Goodson Thomas, rydyn ni wir yn mwynhau ein sesiynau dal i fyny dyddiol a dydyn nhw ddim bob amser yn gysylltiedig â gwaith. Maen nhw'n ffordd wych o…

view more »


Cyfarchion y Tymor

Friday 23rd December 2022
Catrin Taylor

Dros y dyddiau diwethaf, rydym wedi bod yn rhannu rhai mewnwelediadau yn seiliedig ar ein dealltwriaeth o'r farchnad yng Nghymru a'n profiadau dros y 12 mis diwethaf. Mwy i ddod ym mis Ionawr... Yn y cyfamser, dymunwn seibiant heddychlon i chi, eich cydweithwyr, teulu a ffrindiau. #mewnwelediad #gyrfaoedd #cyfleoedd

view more »


Meddylfryd Masnachol

Thursday 22nd December 2022
Catrin Taylor

Pr'un ai ydych yn gyflogwr neu'n ymgeisydd, gobeithio y bydd ein dirnadaeth yr wythnos hon yn helpu i arwain eich ffordd o feddwl am y farchnad lafur yng Nghymru. Byddem yn annog ymgeiswyr i ddod â'u profiad masnachol i'r amlwg wrth wneud cais am rolau. Gyda'r ansicrwydd economaidd, rydym yn gweld tuedd yn nifer y sefydliadau sy'n chwilio fwyfwy am ymgeiswyr sydd â chraffter masnachol ac a all ddod â chynaliadwyedd ariannol i fusnes neu sefydliad. #ymgeisydd #cyflogwr #mewnwelediad #masnachol

view more »


Ein Hamgylchedd Gwaith

Wednesday 21st December 2022
Catrin Taylor

Yr wythnos hon, rydyn ni'n rhannu rhai o'n meddyliau a'n mewnwelediadau wrth i ni baratoi ar gyfer 2023. Nid yw'n syndod bod heriau COVID-19 wedi newid ein cymhellion personol, ein disgwyliadau o gyflogwyr a gweithwyr, a'n huchelgeisiau am amgylchedd gwaith mwy hyblyg sy'n canolbwyntio ar ganlyniadau. Mae sgwrs gynnar rhwng ymgeisydd a chyflogwr am y disgwyliadau hyn yn allweddol. #gyrfaoedd #gweithiohyblyg

view more »


Marchnad Lafur Cythryblus Yng Nghymru

Tuesday 20th December 2022
Catrin Taylor

Wrth i ddiwedd y flwyddyn ddod yn nes, fel llawer o fusnesau rydym wedi bod yn myfyrio ar y 12 mis diwethaf. Ac yn bwysicach efallai, myfyrio ar sut mae'r ffactorau allanol niferus sy'n effeithio ar ein bywydau bob dydd ar hyn o bryd yn effeithio ar y farchnad lafur yng Nghymru ac felly ar ein gwaith. Gyda hynny mewn golwg, byddwn yn rhannu rhai mewnwelediadau dros y dyddiau nesaf a allai fod yn ddefnyddiol i chi fel ymgeiswyr neu gyflogwyr wrth i ni edrych ymlaen at 2023. Efallai eich bod wedi cael syniadau tebyg neu brofiadau anhebyg. Fe ddechreuwn ni gyda'r ffaith taw'n ymgeiswyr sy'n rheoli. Mae ganddynt fwy o ryddid i wneud penderfyniadau ystyriol am eu symudiad gyrfa…

view more »


“Cefndir Trasig:” Mabwysiadu yn dangos imi pa mor bwysig yw hunaniaeth

Wednesday 2nd November 2022
Ross O'Keefe

Yn dilyn yr Wythnos Fabwysiadu Genedlaethol, bu ein Cyfarwyddwr Ross O'Keefe yn myfyrio ar yr hyn a ddysgodd amdano'i hun yn sgil dod yn dad mabwysiadol a'r hyn y mae'n gobeithio'i addysgu i'w blant er mwyn cefnogi eu llwyddiannau yn y dyfodol. Mae'r arwyr gorau yn dod o hyd i ffordd o ddefnyddio poen y gorffennol i wneud daioni yn y dyfodol. Mewn gwirionedd, caiff pob un ohonom (i ryw raddau) ein siapio gan ein profiadau, pa un a ydym yn sylweddoli hynny ai peidio. Yn aml, cawn ein 'cynhyrchu' gan ein hamgylcheddau; rydym yn dysgu gan y rhai sy'n troi o'n cwmpas, ac yn addysgu eraill sy'n troi o'n cwmpas ni - weithiau mewn modd agored a thro arall mewn…

view more »


Goodson Thomas yn ennill lle ar Fframwaith Gwasanaethau Masnachol y Goron

Thursday 13th October 2022
Catrin Taylor

Yn dilyn proses gystadleuol, rydyn ni wedi cael ein dewis fel cyflenwr ar Fframwaith Recriwtio Gweithredol Gwasanaethau Masnachol y Goron (CCS) (RM6290). Mae Gwasanaeth Masnachol y Goron (CCS) yn Asiantaeth Weithredol o Swyddfa'r Cabinet, sy'n cefnogi'r sector cyhoeddus i gael y gwerth masnachol gorau posibl wrth gaffael nwyddau a gwasanaethau cyffredin. Yn 2020/21, helpodd y CCS y sector cyhoeddus i gyflawni buddion masnachol cyfwerth â £2.04bn - gan gefnogi gwasanaethau cyhoeddus o'r radd flaenaf sy'n cynnig gwerth gorau i drethdalwyr. Mae sicrhau lle yn llwyddiannus ar Lot 1, 2 a 3 o'r Fframwaith yn dystiolaeth o'n cryfder a'n gallu i ddarparu gwasanaethau recriwtio gweithredol ac anweithredol i sefydliadau sector cyhoeddus ledled y DU. Gyda'n pencadlys yng Nghaerdydd, rydyn ni'n gwmni canfod cyffredinol sy'n…

view more »


Cyflogi ymgeisydd anghonfensiynol

Thursday 28th July 2022
Sam Boult

Mae'r ddwy flynedd ddiwethaf wedi newid y ffordd yr awn ati i weithio a chyflogi. Yn sgil prinder sgiliau a blaenoriaethau newidiol y farchnad, rhaid i gyflogwyr addasu'r modd yr ânt ati i recriwtio. Wrth inni ddelio ag effeithiau'r pandemig, mae'r cwmnïau mwyaf ystwyth yn ystyried dulliau amgen er mwyn ceisio bod yn fwy cystadleuol. Un opsiwn gwerthfawr yw cyflogi ymgeiswyr y gellid ystyried eu bod, yn ôl yr hen arfer, yn ymgeiswyr 'anghonfensiynol'. Ymgeisydd nad yw'n ffitio'r mowld traddodiadol - dyna yw ymgeisydd anghonfensiynol. Fel arfer, caiff ei ddiystyru gan nad yw ei broffil yn cyd-fynd â'r delfryd hirsefydlog. Eto i gyd, efallai'n wir fod ymgeiswyr anghonfensiynol yn meddu ar y sgiliau iawn ar gyfer y swydd, hyd yn oed…

view more »