Fel tîm, cynigiwn ein cydbrofiad o weithio gyda marchnadoedd yng Nghymru, y DU ac yn Rhyngwladol er mwyn
darparu atebion gweithredol i'n cleientiaid yn y sector masnachol, y sector cyhoeddus a'r sector nid-er-elw.
Cliciwch yma i weld Prosbectws Goodson Thomas
Chwiliadau Gweithredol
Mae Goodson Thomas yn arbenigo ar gyflawni aseiniadau chwilio gweithredol, o ddechrau'r broses i'w diwedd. Rhoddwn sylw mawr i bob cam o'r broses - o ddatblygu'r briff a chynnal trafodaethau cynnar i leoli'r ymgeisydd a ddewisir, ymrwymwn i ddod o hyd i'r dalent sy'n gweddu orau i anghenion ein cleientiaid. Defnyddiwn ddull ymarferol gan ryngweithio'n uniongyrchol i ddod o hyd i'r unigolyn a fydd yn gweddu i'ch sefydliad nid yn unig o ran profiad neu sgiliau, ond hefyd o ran diwylliant, a rhywun a all addasu i'ch diwydiant.
Wrth chwilio am yr ymgeisydd delfrydol i lenwi'r rôl, rydym yn archwilio mwy nag un set sgiliau arbennig neu un math penodol o brofiad gwaith. Rhoddwn yr un pwys ar bersonoliaeth - y modd y gall yr ymgeiswyr gyfathrebu, eu hagwedd a'u harddull, eu gwerthoedd a'u sgiliau pobl - mae'r elfennau hyn i gyd yn hollbwysig yn ein dull o gaffael talent.
Trwy fuddsoddi yng ngwasanaethau Goodson Thomas, byddwch yn buddsoddi yn nyfodol eich sefydliad - gallwn sicrhau proffesiynoldeb a hyblygrwydd, gan arbed y drafferth a'r gost o gyflogi pobl aneffeithiol.
Treiddgarwch Corfforaethol
Sylweddolwn fod defnyddio gwasanaethau Goodson Thomas yn fuddsoddiad pwysig ichi ac y byddwch yn disgwyl gwasanaeth proffesiynol a chanlyniadau di-ffael. Dyna pam y cynigiwn warantau penodol, wedi'u teilwra'n arbennig ar gyfer unrhyw aseiniad a roddwn ar waith gyda'n gilydd.
Mae gwasanaethau Goodson Thomas yn cynnwys:

Adolygu Talent

Gwerthuso Talent

Cynllunio ar gyfer Olyniaeth

Cynllunio ac Ad-drefnu Sefydliadau

Adolygu Byrddau

Hyfforddiant i Ymddiriedolwyr / Aelodau'r Bwrdd

Strategaethau Cydraddoldeb ac Amrywiaeth

Ymgysylltu â Gweithwyr

Cynllunio Strategol

Canfod Tueddiadau

Brandio Cyflogwyr (cyflogwr o ddewis)

Gwerthuso Buddion ac Iawndal
Ein Cleientiaid
Gweithiwn gydag amrywiaeth o gleientiaid o'r sector masnachol, y sector cyhoeddus a'r trydydd sector. Rydym yn cynnal chwiliadau ar gyfer
rolau gweithredol ac anweithredol ac rydym yn cyflawni prosiectau treiddgarwch corfforaethol. Cliciwch yma i weld enghreifftiau o'n gwaith.
Yma
Cysylltu
Pa un a ydych yn fusnes sy'n awyddus i weithio gyda ni neu'n rhywun sy'n dymuno trafod y modd y gallwch gamu ymlaen yn eich gyrfa, mae croeso ichi gysylltu.
CYSYLLTU Â NI