Busnes chwilio cyffredinol, brodorol a sefydlwyd yn 2015, gyda phencadlys yng Nghymru. Mae ein llwyddiant parhaus yn brawf o'n hymrwymiad i bopeth a wnawn. Rhoddwn ddull diwyd, chwilfrydig a theilwredig ar waith, ac rydym yn rhagori ar greu gwir bartneriaethau gyda'n cleientiaid, gan eu cynghori a'u tywys trwy benderfyniadau anodd yn ymwneud ag uwch-strwythurau a denu talent.
Mae amrywiaeth a chreadigrwydd wrth galon a chraidd ein gwaith, ac rydym yn gweithredu yn ôl ein pregeth. Wrth ganlyn ein twf fel busnes a sicrhau cyfle cyfartal i bawb, rydym yn gweithio gyda phartneriaid a chynrychiolwyr o'r gymuned i ddenu penodeion a chanddynt feddylfryd, safbwyntiau a chredoau amrywiol. Mae hyn yn cyfoethogi ein gallu i chwilio'n effeithiol. Rydym yn herio ein penderfyniadau, ein hasesiadau a'n dadansoddiadau yn gyson er mwyn sicrhau eu bod yn gadarn ac yn seiliedig ar dystiolaeth, ac awn ati'n barhaus i geisio ychwanegu gwerth wrth ymgysylltu â chleientiaid ac ymgeiswyr.
A ninnau â chyfradd lenwi o 99.5% (y gyfradd orau yn y sector), mae gennym sylfaen ragorol i adeiladu ymhellach arni.
Rydym wedi llofnodi'r Cod Ymddygiad Gwirfoddol Safonol ar gyfer cwmnïau chwilio gweithredol ac rydym yn cadw at y safonau hyn. Hefyd, rydym yn cynnig gwarantau cryf ac yn sicrhau cyfrinachedd.

Ein Cleientiaid
Gweithiwn gydag amrywiaeth o gleientiaid o'r sector masnachol, y sector cyhoeddus a'r trydydd sector. Rydym yn cynnal chwiliadau ar gyfer rolau gweithredol ac anweithredol ac rydym yn cyflawni prosiectau treiddgarwch corfforaethol. Cliciwch yma i weld enghreifftiau o'n gwaith.
Yma
Cysylltu
Pa un a ydych yn fusnes sy'n awyddus i weithio gyda ni neu'n rhywun sy'n dymuno trafod y modd y gallwch gamu ymlaen yn eich gyrfa, mae croeso ichi gysylltu.
CYSYLLTU Â NI