English / Cymraeg


Monitro Cydraddoldeb, Amrywiaeth a Chynhwysiant

A wnewch chi lenwi’r ffurflen hon er mwyn ein helpu ni a’n cleient i fonitro amrywiaeth ein hymgeiswyr. Rydym yn eich annog i ddatgelu popeth, ond sylweddolwn y bydd yn well gan rai pobl beidio â datgelu eu holl ddata personol neu rannau o’u data personol. Mewn achosion o’r fath, mae croeso ichi ddewis yr opsiwn “Gwell gennyf beidio â dweud”.

Bydd y manylion a nodwch yn cael eu trin fel gwybodaeth ddienw, breifat a chyfrinachol gennym ni a’n cleient.

Bydd y data’n cael ei gydgrynhoi; dim ond at ddibenion monitro cyfle cyfartal a llunio adroddiadau y bydd yn cael ei ddefnyddio.

Mae rhai o’r cwestiynau a’r categorïau a ddefnyddir yn cynnwys y rhai a argymhellir fel ‘arfer da’ gan y Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol, cyfrifiad y DU a’r Asiantaeth Ystadegau Addysg Uwch (HESA).

Os oes gennych ymholiadau neu gwestiynau’n ymwneud â’r ffurflen hon, cysylltwch â ni ar info@goodsonthomas.com

Beth yw eich oedran?

Beth yw eich rhyw?

A yw eich rhywedd yr un fath â’r rhywedd a bennwyd ichi ar adeg eich geni?

Beth yw eich cyfeiriadedd rhywiol?

Mae Goodson Thomas eisiau sicrhau bod pob ymgeisydd yn cael ei drin yn gyfartal, ni waeth be fo’i hil, ei liw neu ei darddiad ethnig. Er mwyn gwneud hyn, rydym angen cael gwybod am darddiad ethnig pobl sy’n ymgeisio i ymuno â ni. Â pha grŵp ydych chi’n uniaethu fwyaf?

Mae Goodson Thomas eisiau sicrhau bod pob ymgeisydd yn cael ei drin yn gyfartal, ni waeth be fo’i hil, ei liw neu ei darddiad ethnig. Er mwyn gwneud hyn, rydym angen cael gwybod am darddiad ethnig pobl sy’n ymgeisio i ymuno â ni. Â pha grŵp ydych chi’n uniaethu fwyaf?

A ydych o’r farn bod gennych anabledd? Yn Neddf Cydraddoldeb 2010, diffinnir unigolyn anabl fel rhywun â nam corfforol neu feddyliol sy’n cael effaith sylweddol a hirdymor ar ei allu i gyflawni gweithgareddau arferol o ddydd i ddydd.


DYCHWELWCH I FANYLION SWYDD WAG